Diweddariad ar y Broses Gaffael

Cefndir

1. Yn 2014 cyhoeddwyd y byddai’r cyfrifoldeb am fanyleb a chaffael y gwasanaeth rheilffyrdd nesaf ar gyfer Cymru a’r Gororau’n cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.

2. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni dielw eiddo llwyr a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2015 er mwyn darparu cefnogaeth ac arbenigedd mewn cysylltiad â phrosiectau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Ar ran Llywodraeth Cymru, rydym yn cynnal proses gaffael ar hyn o bryd ar gyfer Gwasanaeth Rheilffyrdd nesaf Cymru a’r Gororau, gan gynnwys Metro De Cymru.

Ymgynghoriad Cychwynnol

3. Rhwng misoedd Ionawr a Mawrth 2016, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y trefniadau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd a gweithrediadau gorsafoedd ar gyfer Gwasanaeth Rheilffyrdd nesaf Cymru a’r Gororau. Cyflwynodd yr ymatebwyr safbwyntiau ar amrywiaeth eang o feysydd.

4. Roedd y meysydd blaenoriaeth a awgrymwyd ar gyfer eu hystyried yn cynnwys lleihau amseroedd siwrneiau yn gyffredinol, lleihau costau, gwelliannau gallu, gwell hygyrchedd, gwell cysylltedd a hefyd gwell prydlondeb, dibynadwyedd ac ansawdd. Yn seiliedig ar ganlyniadau ymgynghori ac ymgysylltu, datblygodd Llywodraeth Cymru ei Blaenoriaethau Polisi ar gyfer Caffael Partner Datblygu ar gyfer Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a Gweithredwr y Metro.[1]

Y Broses Gaffael Hyd Yma

5. Lansiodd Trafnidiaeth Cymru ymarfer caffael ym mis Gorffennaf 2016 i sicrhau gweithredwr a phartner datblygu (GPD) i weithredu gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau ac i fwrw ymlaen ag agweddau allweddol ar gam nesaf Metro De Cymru. Bydd y GPD yn cydlynu gwaith gan amrywiaeth o gontractwyr YCC (Ymgysylltiad Contractwr Cynnar) er mwyn creu gwelliannau a fydd yn darparu ffordd o feddwl drwy edrych ar y system gyfan, gan sicrhau bod y blaenoriaethau’n arwain at well gwasanaeth i deithwyr.

6. Ym mis Hydref 2016, cafodd pedwar ymgeisydd eu datgan a’u henwi fel rhai â diddordeb mewn datblygu’r fasnachfraint nesaf.  Ym mis Tachwedd 2016, cyflwynodd yr ymgeiswyr hyn eu datrysiadau bras i Trafnidiaeth Cymru.

7. Darparwyd blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru i ymgeiswyr posib ar ddechrau'r broses gaffael, gyda disgwyl bod y ceisiadau’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau hyn, yn amodol ar drafod cystadleuol.

 

8. Dechreuodd y trafod gyda’r ymgeiswyr ym mis Ionawr 2017. Mae trafod cystadleuol yn broses lle rydym yn gweithio gyda’r ymgeiswyr i ddatblygu contract sy’n sicrhau cyflawni ein hamcanion lefel uchel, ac ar yr un pryd caniatáu i ymgeiswyr fireinio eu datrysiadau unigryw eu hunain i fodloni cyfres o ofynion manwl, sy’n gyffredin i’r holl ymgeiswyr, ac y bydd pob cwmni’n ymgeisio yn eu herbyn yn y pen draw.

9. Ym mis Chwefror lansiodd Trafnidiaeth Cymru ymgynghoriad 12 wythnos pellach sy’n rhoi cyfle i'r cyhoedd rannu eu safbwyntiau am y gwasanaeth newydd, gan helpu fel sail i’n trafodaethau gydag ymgeiswyr. Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gefnogi gan Transport Focus. Mae digwyddiadau ymgysylltu rhanbarthol yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ledledCymru er mwyn hwyluso ymatebion. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 23 Mai.

Proses Gaffael wrth Symud Ymlaen

10. Cynhelir y broses dendro derfynol rhwng misoedd Gorffennaf a Medi ac mae disgwyl y caiff y contract ei ddyfarnu erbyn diwedd y flwyddyn hon, gyda’r gweithrediadau’n dechrau ym mis Hydref 2018.

Proses Ddatganoli

11. Rydym yn symud ymlaen gyda’r caffael hwn ar sail y cytundeb a luniwyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn 2014 i drosglwyddo swyddogaethau masnachfraint.

12. Mae cyflawni ein huchelgais yn dibynnu ar Lywodraeth y DU yn bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r canlynol:

•           Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r pwerau ar amser ac fel y cytunwyd; 

•           Llywodraeth y DU a Network Rail yn cytuno ar gynlluniau ar gyfer Cledrau’r Cymoedd, sy’n cael eu trafod ar hyn o bryd;

•           Yr Adran Drafnidiaeth yn cytuno i drefniadau ariannol addas ar gyfer seilwaith Cledrau’r Cymoedd.

 

 

Trafnidiaeth Cymru

Mawrth 2017

 

 



[1] http://gov.wales/topics/transport/transport-for-wales/procurement/?skip=1&lang=cy